Croeso i wefan Cyngor Tref Tywyn



https://www.facebook.com/CyngorTrefTywyn/

Mae Cyngor Tref Tywyn yn gorff statudol etholedig a sefydlwyd gan Ddeddf Cynghorau Plwyf 1894. Mae Cyngor Tref Tywyn wedi ymrwymo i wella lles cymunedol ac ansawdd bywyd tra'n darparu gwell gwasanaethau i Dywyn.

Mae'r Cyngor yn gweithredu nifer o wasanaethau yn y dref ac yn cyfrannu'n ariannol tuag at wasanaethau a ddarperir gan gyrff a sefydliadau statudol eraill.

Mae Cyngor Tref Tywyn yn gweithredu strwythur Pwyllgorau i drefnu ei gyfrifoldebau a'i lywodraethu yn well. Mae manylion am y Pwyllgorau, eu haelodaeth a'u cyfrifoldebau i'w gweld yn y gwymplen tuag at frig y dudalen.



Cyfarfodydd y Cyngor

Cynhelir pob cyfarfod yn y Ganolfan Adnoddau, Ysgol Uwchradd Tywyn, Ffordd yr Orsaf, Tywyn, oni nodir yn wahanol.

Rhoddir cyfle i aelodau'r cyhoedd i annerch y Cyngor o flaen y cyfarfod, cyhyd ag y bod:

Rhybudd ysgrifenedig, yn rhoi gwybodaeth glir am destun y cyflwyniad, wedi'i gyflwyno i Clerc y Dref o leiaf saith diwrnod clir cyn dyddiad y cyfarfod gan unrhyw un sy'n dymuno annerch y Cyngor

Ceir dyddiadau o gyfarfodydd yn 2017/18 Yma



Cofnodion diweddaraf (09/09/24)


Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf. Lluniau'r baner o geograph.co.uk

Administration